Y Pwyllgor Cyllid |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 2 Gorffennaf 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.00 - 11.09 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Jocelyn Davies AC (Cadeirydd) Peter Black AC Christine Chapman AC Paul Davies AC Mike Hedges AC Alun Ffred Jones AC Ann Jones AC Julie Morgan AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Jane Hutt AC, Gweinidog Cyllid Jeff Andrews, Cynghorydd Polisi Arbenigol, Llywodraeth Cymru Matt Denham Jones, Llywodraeth Cymru Jo Salway, Llywodraeth Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Bethan Davies (Clerc) Meriel Singleton (Ail Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Richard Bettley (Ymchwilydd) Martin Jennings (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor. Ni chafwyd ymddiheuriadau.
2 Craffu ar Gynnig Cyllideb Atodol 2014-15
2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid; Jo Salway, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyllidebu Strategol, Llywodraeth Cymru; Matt Denham-Jones, Pennaeth Rheoli a Chofnodi Cyllidebau, Llywodraeth Cymru; a Jeff Andrews, Cynghorydd Polisi Arbenigol ar Gynnig Cyllideb Atodol 2014-2015.
2.2 Cytunodd y Gweinidog Cyllid i anfon y wybodaeth ychwanegol a ganlyn:
· Sut y caiff yr £1.6 miliwn ychwanegol ar gyfer yr iaith Gymraeg ei ddyrannu
· Enghreifftiau o brosiectau cyfalaf sydd wedi sicrhau arbedion o ran cost, a manylion y canlyniadau
· Sut mae'r £6 miliwn ar gyfer trafodion ariannol wedi'i ddyrannu hyd yma
· Rhagor o fanylion am yr addasiad i'r Gwariant a Reolir yn Flynyddol ar gyfer Addysg a Sgiliau sy'n ymwneud â benthyciadau myfyrwyr
2.3 Cytunodd y Gweinidog Cyllid i ystyried y ffordd orau i ledaenu manylion am brosiectau llai (o dan £15 miliwn) a sut y maent yn ymwneud â'r Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru.
3 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16
2.1 Trafododd yr Aelodau Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16 gyda Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid; Jo Salway, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyllidebu Strategol, Llywodraeth Cymru; Matt Denham-Jones, Pennaeth Rheoli a Chofnodi Cyllidebau, Llywodraeth Cymru; a Jeff Andrews, Cynghorydd Polisi Arbenigol.
3.2 Cytunodd y Gweinidog Cyllid i anfon nodyn ynghylch ble mae manylion cynlluniau menter preifat ledled y sector cyhoeddus yn cael eu cofnodi.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5 Craffu ar Gynnig Cyllideb Atodol 2014-15: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law
5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.
6 Blaenraglen waith: Hydref 2014
6.1 Trafododd yr Aelodau y rhaglen waith ar gyfer tymor yr hydref a'i nodi.